Jump to Content

Swyddog Grantiau Cymru

22 May 2026
Wales

Llun o Neuadd Gregynog. Credyd: Ymddiriedolaeth Gregynog.

Mae’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol yn awyddus i benodi Swyddog Grantiau i helpu i gyflawni ein rhaglen grantiau a chynghori craidd yng Nghymru. Cafodd y rôl hon ei chreu gyda diolch i gyllid hael gan Cadw, Adran Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru. Bydd y buddsoddiad hwn yn fodd i’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol ddarparu grantiau i gymunedau ledled Cymru, gan eu cynorthwyo i ddefnyddio adeiladau hanesyddol, sydd wedi’u hesgeuluso, unwaith eto.  

Bydd deilydd y swydd yn gyfrifol am asesu a rheoli llwyth achosion o brosiectau ledled Cymru. Byddan nhw’n cynghori ac yn arwain prosiectau drwy bob cam o gylch oes y prosiect, o’r cam hyfywedd cynnar hyd at y cam gwaith cyfalaf. Byddan nhw’n sicrhau bod y grantiau, lle caiff eu cynnig, yn cael eu dyrannu a’u monitro yn unol â meini prawf a blaenoriaethau’r rhaglen a byddan nhw’n cydweithio’n agos gyda phartneriaid allanol i gefnogi amcanion ar y cyd.

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd â phrofiad helaeth yn dyrannu grantiau a rheoli prosiectau, sy’n gallu cydweithio fel rhan o dîm o bell ac sy’n gallu dangos diddordeb pendant yn nod y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol i hyrwyddo cadwraeth ac ail-ddefnydd cynaliadwy o adeiladau hanesyddol er budd cymunedau ledled y DU. Mae’n rhaid i’r ymgeiswyr hefyd feddu ar sgiliau rhifiadol cryf a phrofiad o ddefnyddio systemau TG a swyddfa cyffredin. At hyn, mae’n rhaid iddyn nhw feddu ar sgiliau cyfathrebu eithriadol, yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y Gymraeg a’r Saesneg.   

Bydd y rôl gartref ond gyda theithio helaeth ar hyd a lled Cymru a theithio achlysurol i bob cwr o’r DU.

Sut i ymgeisio

Os hoffech chi ymgeisio am y swydd hon, anfonwch CV a llythyr eglurhaol (o hyd at 1.5 ochr o dudalen A4, ar e-bost yn unig) yn dangos eich addasrwydd ar gyfer y swydd wag, at recruitment@ahfund.org.uk.

Mae’n rhaid i’ch cais ein cyrraedd erbyn 9yb ar Fehefin y 9fed 2026 fan bellaf. Ni fyddwn yn dwyn i ystyriaeth llythyrau wedi’u creu gydag AI. Ysgrifennwch eich llythyr eglurhaol eich hun os gwelwch yn dda.

Os cewch chi’ch ychwanegu at y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, byddwn yn cysylltu gyda chi erbyn Mehefin y 15fed 2026. Fodd bynnag, elusen fach ydym ni ac, yn sgil y nifer o geisiadau rydym yn eu disgwyl, mae’n ddrwg gennym na allwn gynnig adborth os na fyddwch chi’n cyrraedd y rhestr fer.

Byddwn yn cynnal y cyfweliadau yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar Fehefin yr 22ain 2026. Bydd y rhain ar-lein.

Gwybodaeth am y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol

Mae’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol yn elusen dreftadaeth flaenllaw a sefydlwyd ym 1976 i helpu elusennau a mentrau cymdeithasol ledled y DU i ddod o hyd i atebion ar gyfer adeiladau hanesyddol bregus. Rydym yn gwneud hyn drwy gynnig cyngor, grantiau a benthyciadau. Gallwch ddod o hyd i fwy o fanylion am y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol ac effaith ein gwaith yma: www.ahfund.org.uk

Rydym yn elusen sy’n ymrwymo i fod yn gynhwysol a rhoi cyfle cyfartal i bawb lwyddo – gallwch ddarllen mwy am ein hymrwymiadau Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI) yma. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth yw eu hoedran, rhyw, hunaniaeth rhywedd, anabledd, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, crefydd neu gred, hil, cyfeiriadedd rhywiol, statws trawsryweddol neu gefndir economaidd-gymdeithasol. 

I wybod mwy, lawr lwythwch y pecyn ymgeisio yma.

 

Swydd Wag

Swyddog Grantiau Cymru

0.6 Cyfwerth ag Amser Llawn  

Hyd y Cytundeb

Cyfnod penodol hyd at Fawrth 2028, gyda phosibilrwydd o estyniad os oes cyllid ar gael

Cyflog

£36,000-£38,000 y flwyddyn (pro-rata) gyda chyfraniad pensiwn o 8%

Lleoliad

Gweithio adref o bell gyda theithio helaeth ledled Cymru, ynghyd ag ymweliadau rheolaidd i swyddfa’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol yn Llundain

Cais

Gofynnwn yn garedig ichi gyflwyno CV a llythyr eglurhaol (hyd at ddwy ochr A4) at recruitment@ahfund.org.uk.

Dyddiad Cau ar gyfer Ymgeisio

9yb ar Fehefin y 9fed 2026

Cyfweliadau

Wythnos yn dechrau Mehefin yr 22ain 2026