Menu closed Menu open
Image: Ty'n Llan Community Pub in Llandwrog. Photo courtesy of Menter Ty’n Llan Cyf.
Image: Ty'n Llan Community Pub in Llandwrog. Photo courtesy of Menter Ty’n Llan Cyf.

Wales Funding Announcement 2022-23

4 August 2022
Wales

A year on from the announcement of their strategic partnership, the Architectural Heritage Fund (AHF) is thrilled to announce a renewed funding package of £350,000 from Cadw, the Welsh Government’s Historic Environment Division, towards its ‘Heritage Transformed in Wales’ programme. The programme, which is also supported by The Garfield Weston Foundation and the Pilgrim Trust, offers early-stage Project Viability and Project Development Grants, as well as a number of modest Cadw-funded Capital Works Grants to heritage regeneration projects across Wales.

In the last year, thanks to the generous support of our funders, the AHF was able to award 19 grants totalling £339,692. These included a Project Viability Grant to Brynaman Lido to support the community’s plans to take on ownership and restore the lido from the local authority; a Project Development Grant to advance plans for the Grade II-listed coach house and stables in Machynlleth to provide accommodation for visitors and a community space; and a capital grant to Capel Carmel on the Llŷn Peninsula to restore the Grade II-listed chapel house, which will provide long-term accommodation for the local community.

The AHF is delighted to continue this successful partnership with Cadw, in which it can continue to focus on making a difference in areas of need, both rural and urban. Additionally, the support from Cadw also allows the AHF’s Wales Development Manager to continue to offer advice to groups as they progress their thinking and gear up for investment from a range of other sources. This includes the AHF’s own social investment funds in Wales, both its endowment and the Heritage Impact Fund.

AHF Support in Wales

Early-stage grants in Wales have proven useful in helping charities and social enterprises seeking to secure a future for buildings at risk to shape their projects. Funding can, for example, help groups to test the relevance of proposed uses to the local community; develop a business case; establish the building's condition and costs of repair; and carry out architectural feasibility studies. Applications for Project Viability Grants (up to £10,000) and Project Development Grants (up to £20,000) can be submitted throughout the year. See the deadlines page for the details.

Capital Works Grants (up to £50,000) are available to help projects in Wales fund the cost of repair, restoration and conservation work and associated fees. These might support emergency works to arrest deterioration to the historic fabric or develop temporary ‘meanwhile’ uses while long-term solutions are worked up or as part of a larger scale of capital works.

Matthew Mckeague, AHF’s CEO, said:

“We are grateful to continue the strategic partnership with Cadw. It will enable us to carry on investing in early-stage historic building reuse projects in Wales, investment we know is vital to the long-term success of projects, whilst also offering targeted capital grants. Thanks to this funding, we look forward to working with a host of new heritage and social impact projects across Wales.”

Dawn Bowden, Deputy Minister for Arts and Sport, said:

“I’m delighted that we can renew our support of AHF’s important work in Wales. By helping communities revitalise buildings they care about, this work gets to the heart of what heritage is all about: activity that brings people together, that brings vitality to our communities, and sustains the buildings and places that matter to people.”

For more information on these grants and how to apply, please visit the Wales page.

Cyhoeddi Cyllid Cymru 2022-23

Flwyddyn ar ôl cyhoeddi eu partneriaeth strategol, mae’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol (AHF) yn falch iawn o gyhoeddi pecyn ariannu newydd o £350,000 gan Cadw, Is-adran Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru, tuag at ei rhaglen ‘Treftadaeth wedi’i Thrawsnewid yng Nghymru’. Mae'r rhaglen, a gefnogir hefyd gan Sefydliad Garfield Weston ac Ymddiriedolaeth Pilgrim, yn cynnig Grantiau Hyfywedd Prosiect a Grantiau Datblygu Prosiect cyfnod cynnar, yn ogystal â nifer o Grantiau Gwaith Cyfalaf cymedrol a ariennir gan Cadw i brosiectau adfywio treftadaeth ledled Cymru.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, diolch i gefnogaeth hael ein cyllidwyr, llwyddodd yr AHF i ddyfarnu 19 o grantiau gwerth cyfanswm o £339,692. Roedd y rhain yn cynnwys Grant Hyfywedd Prosiect i Lido Brynaman i gefnogi cynlluniau’r gymuned i gymryd perchnogaeth oddi wrth yr awdurdod lleol ac adfer y lido; Grant Datblygu Prosiect i symud ymlaen â chynlluniau ar gyfer y cerbyty a'r stablau rhestredig Gradd II ym Machynlleth i ddarparu llety i ymwelwyr a man cymunedol; a grant cyfalaf i Gapel Carmel ym Mhen Llŷn a fydd yn adfer y tŷ capel rhestredig Gradd II, a fydd yn darparu llety tymor hir i’r gymuned leol.

Mae'n bleser gan yr AHF barhau â'r bartneriaeth lwyddiannus hon gyda Cadw, lle gall y Gronfa barhau i ganolbwyntio ar wneud gwahaniaeth mewn ardaloedd o angen, yn wledig ac yn drefol. Yn ogystal, mae’r cymorth gan Cadw hefyd yn galluogi Rheolwr Datblygu Cymru yr AHF i barhau cynnig cyngor i grwpiau wrth iddynt ddatblygu eu syniadau a pharatoi ar gyfer buddsoddiad o amrywiaeth o ffynonellau eraill. Mae hyn yn cynnwys cronfeydd buddsoddi cymdeithasol yr AHF ei hun yng Nghymru, ei Chronfa Waddol a’r Gronfa Effaith ar Dreftadaeth.

Cymorth y Gronfa yng Nghymru

Mae grantiau cyfnod cynnar yng Nghymru wedi bod yn ddefnyddiol wrth helpu elusennau a mentrau cymdeithasol sy'n ceisio sicrhau dyfodol i adeiladau sydd mewn perygl i lunio eu prosiectau. Er enghraifft, gall cyllid helpu grwpiau i brofi perthnasedd defnyddiau arfaethedig i'r gymuned leol; datblygu achos busnes; sefydlu cyflwr yr adeilad a chostau atgyweirio; a chynnal astudiaethau dichonoldeb pensaernïol. Gellir cyflwyno ceisiadau am Grantiau Hyfywedd Prosiect (hyd at £10,000) a Grantiau Datblygu Prosiectau (hyd at £20,000) drwy gydol y flwyddyn. Gweler y dudalen dyddiadau cau am fanylion.

Mae Grantiau Gwaith Cyfalaf (hyd at £50,000) ar gael i helpu prosiectau yng Nghymru ariannu cost gwaith atgyweirio, adfer a chadwraeth a ffioedd cysylltiedig. Gallai’r rhain gefnogi gwaith brys i atal dirywiad i’r adeiledd hanesyddol neu ddatblygu defnyddiau dros dro wrth i atebion hirdymor gael eu llunio neu fel rhan o waith cyfalaf ar raddfa fwy.

Dywedodd Matthew Mckeague, Prif Swyddog Gweithredol AHF:

“Rydym yn ddiolchgar parhau â’r bartneriaeth strategol gyda Cadw. Bydd yn ein galluogi parhau i fuddsoddi mewn prosiectau ailddefnyddio adeiladau hanesyddol cyfnod cynnar yng Nghymru. mae buddsoddiad yr ydym yn ei wybod yn hanfodol i lwyddiant tymor hir prosiectau tra hefyd yn cynnig grantiau cyfalaf wedi’u targedu. Diolch i’r cyllid hwn, edrychwn ymlaen at weithio gyda llu o brosiectau treftadaeth ac effaith gymdeithasol newydd ledled Cymru.”

Dywedodd Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon:

“Rwy’n falch iawn y gallwn ni adnewyddu ein cefnogaeth i waith pwysig yr AHF yng Nghymru. Drwy helpu cymunedau i adfywio adeiladau sy’n bwysig iddynt, mae’r gwaith hwn yn mynd at wraidd yr hyn y mae treftadaeth yn ei olygu: gweithgaredd sy’n dod â phobl ynghyd, sy’n dod â bywiogrwydd i’n cymunedau, ac sy’n cynnal yr adeiladau a’r lleoedd sy’n bwysig i bobl.”

Ewch i dudalen Cymru i gael rhagor o wybodaeth am y grantiau hyn a sut i wneud cais.

Share this item