Mae Neuadd Farchnad hanesyddol Aberteifi yn derbyn hwb i warchod ei dyfodol hir dymor
Mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Neuadd y Dref, Aberteifi, ddydd Mercher y 28ain o Fawrth, datganodd Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Aberteifi ei llwyddiant wrth sicrhau arian datblygu (ar gyfer cynllunio manwl) tuag at brosiect £1.7 miliwn i ddiogelu, i adfer ac i drwsio Neuadd y Farchnad, Aberteifi, yn ogystal â gwella mynediad i’r adeilad. Darparwyd grantiau datblygu ar gyfer y cymal cyntaf hwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, gan y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol ac o dan gynllun Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig 2014-2020.
Dywedodd Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: “Rwy wrth fy modd o gefnogi adfer Neuadd y Dref, Aberteifi. Bu’r farchnad yn masnachu ers mwy na 150 o flynyddoedd ac rwy’n gobeithio y gwnaiff barhau i roi lles i’r dref am flynyddoedd lawer.”
Mae Rhaglen Datblygu Wledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a chan Lywodraeth Cymru, hefyd wedi cynnig £127,000 ychwanegol at ail gymal y cynllun (cyflawni).
Dywedodd Howard Williams, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth: “Mae hyn yn newyddion gwirioneddol gyffrous i Aberteifi gyda’r potensial i roi lles i’r holl gymuned.”
Bydd y cymal datblygu hwn yn caniatáu i’r Ymddiriedolaeth, wrth weithio gyda pherchnogion yr adeilad, Cyngor Sir Ceredigion, ddatblygu a chynllunio trefniadau manwl dros yr ychydig fisoedd nesaf a sicrhau gweddill yr arian sydd ei angen.
Dywedodd Matthew McKeague, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth Bensaernïol: “Mae gan y prosiect hwn botensial mawr i adfywio Neuadd y Farchnad ac i ddangos ymhellach y manteision o drosglwyddo asedau oddi wrth awdurdodau lleol i sefydliadau cymunedol. Gellir eu gweld yn Neuadd y Dref gyfagos, sydd wedi ei chefnogi hefyd gan y GTB fel noddwr tymor hir YCA Aberteifi. Edrychwn ymlaen at weld y prosiect hwn yn llwyddo yn yr un modd.”
Mae gan yr Ymddiriedolaeth weledigaeth ar gyfer y safle sy’n cynnwys datblygu a gwella mynediad y cyhoedd a chyfleusterau i’r masnachwyr ac i’r cyhoedd ac sy’n cynnwys hefyd cyfleoedd ar gyfer cysylltiad, addysg a hyfforddiant. Bydd hanes treftadaeth y farchnad yn cael ei adrodd drwy ddulliau dehongli sy’n tanlinellu pensaernïaeth a hanes unigryw'r safle.
Codwyd Neuadd y Farchnad yn 1860 yn arddull y ddiwygiadaeth Gothig ‘Ruskinaidd’ a ddilynodd yr egwyddorion a osodwyd yn llyfr John Ruskin, 'The Stones of Venice', a gafodd ei gyhoeddi yn 1856. At ddibenion cadwraeth mae’r neuadd yn adeilad Gradd 2*, yn sgil bod yn un o’r adeiladau dinesig cyntaf ym Mhrydain i ddilyn egwyddorion Ruskin.
Cafodd Neuaddau’r Dref a’r Farchnad eu comisiynu yn 1856 i fod yn ganolfan ddinesig ar raddfa fach a oedd yn unigryw ac yn llawer mwy na’r neuadd-dros-farchnad arferol; y ganolfan oedd y gyntaf ym Mhrydain i’w dylunio yn yr arddull Gothig a oedd yn newydd ar y pryd. Codwyd y Neuadd Farchnad ddeulawr ar lethr serth, a hynny’n anarferol ym mhensaernïaeth Oes Fictoria. Mae’r adeilad wedi bod ar waith parhaol fel marchnad ers pan y’i hagorwyd yn 1860. Gwerthfawrogir Neuadd y Farchnad a Neuadd y Dref fel rhannau pwysig o dirwedd hanesyddol, gymunedol ac economaidd yn dref.