Heddiw, cyhoeddodd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a'r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol (AHF) raglen bartneriaeth tair blynedd i achub treftadaeth ar draws y DU - drwy rymuso pobl i ddod ynghyd i adfywio adeiladau segur a chefnogi adfywio arbenigol mewn rhai o leoedd a chymunedau mwyaf difreintiedig y Deyrnas Unedig. Mae Mynegiadau o Ddiddordeb ar gyfer y rhaglen newydd hon yn agor heddiw.
Mae'r ymagwedd gymunedol flaengar hon yn adeiladu ar fenter beilot lwyddiannus yr Ymddiriedolaeth Datblygu Treftadaeth (HDT), a gefnogodd saith ymddiriedolaeth ar draws Lloegr gydag arian refeniw, grantiau i ddatblygu cynlluniau ar gyfer prosiectau adeiladu hanesyddol a chyngor arbenigol wrth iddynt gynyddu graddfa eu gweithgareddau.
Bydd y bartneriaeth hirdymor newydd hon yn ehangu'r rhaglen HDT bresennol ar draws y DU, i gwmpasu ystod o sefydliadau, o ymddiriedolaethau bach dan arweiniad gwirfoddolwyr sy'n dymuno ehangu, trwy ymddiriedolaethau haen ganol â'r potensial i dyfu, i ymddiriedolaethau sefydledig mwy eu maint sydd am gael mwy o effaith mewn cymuned, lle neu ardal ehangach benodol.
Bydd yr Ymddiriedolaethau Datblygu Treftadaeth newydd yn derbyn pecyn ariannu sy'n cynnwys grantiau refeniw tair blynedd rhwng £55k a £70k y flwyddyn, yn ogystal ag arweiniad gan ymgynghorwyr a mentoriaid i ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth ochr yn ochr â chefnogaeth rhwng cymheiriaid i ehangu eu rhwydwaith o gysylltiadau, gyda digwyddiadau rheolaidd i rannu arbenigedd a phrofiad. Byddant hefyd yn gymwys i wneud cais am grantiau dichonoldeb prosiectau a grantiau datblygu prosiectau i helpu i adfer adeiladau hanesyddol er mwyn iddynt gael eu defnyddio eto.
Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a'r AHF yn gweithio mewn partneriaeth i ariannu ymddiriedolaethau ar draws y DU am fod y ddau sefydliad wedi ymrwymo i gryfhau gallu a chydnerthedd ymddiriedolaethau yn y sector treftadaeth adeiledig. Bydd ymddiriedolaethau sefydledig yn cael eu cefnogi i ddatblygu piblinell o brosiectau ac ehangu eu portffolio gyda'r nod o'u gwneud yn fwy cynaliadwy a chysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth y Deyrnas Unedig.
Yn ogystal ag arian grant, bydd cefnogaeth ychwanegol yn cael ei rhoi i ddatblygu sgiliau gwirfoddolwyr a grwpiau sefydledig sydd am droi eu hangerdd yn realiti ac adfywio adeiladau segur er mwyn rhoi diben a lle newydd iddynt yn eu cymuned.
Beth yw Ymddiriedolaeth Datblygu Treftadaeth?
Mae Ymddiriedolaethau Datblygu Treftadaeth yn gwarchod, yn ailddatblygu ac yn gofalu am bortffolio o adeiladau hanesyddol er budd eu hardal leol. Maent yn elusennau a arweinir gan gymunedau neu'n fentrau cymdeithasol sy'n gweithio mewn partneriaeth â llywodraeth leol, busnesau ac elusennau eraill i sicrhau adfywio seiliedig ar le drwy ailddefnyddio adeiladau hanesyddol.
Diben y rhaglen newydd hon yw cefnogi'r fath sefydliadau i ddatblygu portffolios o adeiladau hanesyddol y gallant gynhyrchu incwm ohonynt, gan sicrhau bod yr ymddiriedolaethau pwysig hyn yn mynd yn gydnerth ac yn gynaliadwy yn ariannol.
Yn ystod y rhaglen beilot, galluogodd y gefnogaeth hon Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Tyne & Wear i weithio ar fwy o brosiectau nag erioed o'r blaen, gan gynnwys adfywio rhes o dai masnachwyr Sioraidd yn High Street West, Sunderland. Roedd un tŷ mewn cyflwr difrifol ac o dan fygythiad o gael ei ddymchwel, ond trwy bartneriaeth â Pop Recs, sef siop recordiau wib yn wreiddiol, mae'r Ymddiriedolaeth wedi trawsnewid yr adeilad yn siop goffi fywiog, lleoliad cerddoriaeth a bar, gan ychwanegu seilwaith diwylliannol mawr ei angen i'r dref a gwella'r ardal.
Sut i wneud cais
Bydd yn ofynnol i sefydliadau gyflwyno Mynegiad o Ddiddordeb erbyn 9am ddydd Llun 26 Mehefin. Bydd ymddiriedolaethau sy'n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyflwyno cais llawn erbyn mis Medi, a bydd penderfyniadau ar arian grant yn cael eu gwneud ym mis Rhagfyr 2023.
Mae rhagor o wybodaeth am gyllid, cymhwysedd a sut i wneud cais ar gael ar wefan AHF yn https://ahfund.org.uk/grants/hdt/ neu drwy gofrestru ar gyfer gweithdai ar-lein ym misoedd Mai a Mehefin. Mae manylion llawn y dyddiadau a'r amserau ar gael fel a ganlyn:
Dydd Gwener 26 Mai, 11:00 – 12:00
https://www.eventbrite.co.uk/e/641217196897
Dydd Gwener 2 Mehefin, 10:00 – 11:00
https://www.eventbrite.co.uk/e/641226474647
Dydd Iau 08 Mehefin, 13:00 – 14:00
https://www.eventbrite.co.uk/e/641234829637
Dydd Mercher 14 Mehefin, 10:00 – 11:00
https://www.eventbrite.co.uk/e/641237116477.
Meddai Matthew Mckeague, Prif Weithredwr y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol:
“Mae'r AHF wedi bod yn cefnogi ymddiriedolaethau treftadaeth i warchod ac ailddefnyddio adeiladau hanesyddol ers bron i hanner can mlynedd, a dros y cyfnod hwnnw rydym wedi dysgu mai partneriaeth yn aml yw'r allwedd i lwyddiant hirdymor. Partneriaeth sydd wrth wraidd model yr Ymddiriedolaethau Datblygu Treftadaeth - lle mae ymddiriedolaethau'n creu partneriaethau gydag awdurdodau lleol a defnyddwyr terfynol i drawsnewid 'adeiladau problemus' i asedau ffyniannus sydd o fudd i'w cymunedau.
“Mae'r bartneriaeth hon gyda Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn gweld ein sefydliadau'n dod ynghyd drwy gydnabyddiaeth a rennir o bwysigrwydd ymddiriedolaethau datblygu treftadaeth i iechyd ein sector a lleoedd ar draws y DU ac ymrwymiad i'w cefnogi i wneud mwy yn y blynyddoedd i ddod.
“Rydym yn ddiolchgar i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am wneud y rhaglen hon yn bosib.”
Meddai Eilish McGuinness, Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol:
“Fel ariannwr treftadaeth mwyaf y DU, rydym yn cydweithio â sefydliadau sy'n rhannu ein gweledigaeth o werthfawrogi a gofalu am dreftadaeth ac i'w chynnal ar gyfer pawb yn y dyfodol.
“Bydd ein partneriaeth gyda'r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol yn sicrhau bod gan sefydliadau treftadaeth fynediad i ariannu ac arbenigedd a fydd yn eu grymuso i achub treftadaeth ac i fuddsoddi dros yr hir dymor gan gefnogi rhai o'r lleoedd mwyaf difreintiedig yn y DU.
“Mae gwaith yr Ymddiriedolaethau Datblygu Treftadaeth yn dangos nerth treftadaeth i ysbrydoli ac adeiladu balchder a chysylltiad â’r gorffennol, yn ogystal â newid cadarnhaol go iawn nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
“Dros y 10 mlynedd nesaf, rydym yn bwriadu buddsoddi £3.6 biliwn a godir ar gyfer achosion da gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a'r rhaglen hon yw un o'r ffyrdd y bydd modd i ni wneud gwahaniaeth go iawn ar gyfer pobl, lleoedd a chymunedau."
-diwedd-
Nodyn i olygyddion:
Yn y cam Mynegiad o Ddiddordeb, mae AHF yn bwriadu cynnal gweithdai rhithwir i hyrwyddo'r cynllun HDT ac annog ceisiadau.
Ynghylch AHF – Y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol:
*Roedd model yr Ymddiriedolaeth Datblygu Treftadaeth yn wreiddiol yn un yr oedd AHF wedi treulio rhai blynyddoedd yn ei ddatblygu a'i hyrwyddo. Treialwyd 7 ymddiriedolaeth datblygu treftadaeth fel rhan o'r rhaglen Trawsnewid Lleoedd trwy Dreftadaeth a ariannwyd gan DCMS rhwng 2019 a 2023.
Mae cynllun AHF wedi cael ei ddatblygu a'i ehangu o gynllun peilot cychwynnol a ariannwyd gan DCMS (Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon) yn Lloegr i gwmpasu'r DU, a bydd yn darparu cymorth adeiladu capasiti i 10-13 o Ymddiriedolaethau Datblygu Treftadaeth o feintiau amrywiol am dair blynedd.
Ochr yn ochr ag arian refeniw o hyd at £70,000 a brand neu label yr Ymddiriedolaeth Datblygu Treftadaeth, bydd yr arian yn darparu rhaglen grantiau datblygu prosiectau, cefnogaeth ymgynghoriaeth a chyngor ac arweiniad a arweinir gan gymheiriaid.
Ynghylch Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol:
Gan ddefnyddio arian a godir gan y Loteri Genedlaethol, rydym yn Ysbrydoli, yn arwain ac yn darparu adnoddau i dreftadaeth y DU er mwyn creu newid cadarnhaol a pharhaus ar gyfer pobl a chymunedau, nawr ac yn y dyfodol. www.heritagefund.org.uk/cy.
Ers dechrau'r Loteri Genedlaethol ym 1994, mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol wedi codi dros £43 biliwn ar gyfer prosiectau ac mae dros 635,000 o grantiau wedi'u dyfarnu ar draws y DU. Mae'r mwy na £30 miliwn a godir bob wythnos yn mynd i achosion da ar draws y DU.
Dilynwch @HeritageFundUK ar Twitter, Facebook ac Instagram a defnyddiwch #CronfaTreftadaethyLoteriGenedlaethol #Treftadaeth2033.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Claire Monaghan yn swyddfa wasg Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol claire.monghan@heritagefund.org.uk
Nodiadau: Rhwydwaith yr Ymddiriedolaethau Treftadaeth: Telir ffioedd aelodaeth drwy'r grant hwn – aelodaeth awtomati