CTB yn Cefnogi Trosglwyddo Asedau Cymunedol yng Nghaerdydd
Mae Ymddiriedolaeth Theatr Ddawns Cymru, sy'n fwy adnabyddus fel Rubicon Dance, wedi dod yn arweinydd cydnabyddedig yn y celfyddydau yng Nghymru dros ei 40 mlynedd o hanes, gan adeiladu enw da yn seiliedig ar ei hansawdd artistig a'i gallu i gyrraedd grwpiau amrywiol sydd wedi'u heithrio o'r celfyddydau.
Roedd llyfrgell cangen y Rhath yn rhan allweddol o fudiad Llyfrgelloedd Am Ddim Cymru yng Nghaerdydd. Llwyddodd y gwasanaeth llyfrgell i ffynnu ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif a pharhaodd i gael ei defnyddio nes iddi gau yn 2014 yn dilyn adolygiad Cyngor Dinas Caerdydd o wasanaethau o ganlyniad i galedi. Mae'r adeilad wedi bod yn wag ers hynny.
Ers 1983 mae Rubicon Dance wedi ei lleoli yng nghanol Adamsdown, Caerdydd, lle mae'n cyflwyno ei raglen o weithgareddau dawns i bobl o bob oed a gallu. Yn 2013 cwblhawyd astudiaeth ddichonoldeb a nododd yr angen am le ychwanegol i ateb y galw am ei gwasanaethau.
Yn dilyn proses gystadleuol, cytunwyd ar Benawdau Telerau gyda'r Cyngor ar Drosglwyddo Asedau Cymunedol yn y llyfrgell. Bydd cynlluniau Rubicon Dance yn ehangu i'r llyfrgell, wedi'i lleoli ar daith gerdded fer o'i chanolfan ar Stryd Nora a fydd yn cael ei chadw. Bydd y llyfrgell yn cael ei hadfer i ddarparu tair stiwdio ddawns, ystafelloedd dosbarth, ystafelloedd cyfarfod a mannau cymunedol ochr yn ochr â chyfleusterau adeiladu swyddfeydd.
Mae grant Cronfa Treftadaeth Bensaernïol yn cyfrannu tuag at gostau lleoliad gwaith codi arian dros gyfnod o 12 mis. Bydd y cymorth hwn yn cynyddu gallu Rubicon Dance yn sylweddol wrth iddi ymdrechu i gyflawni ei tharged codi arian i wireddu ei gweledigaeth ar gyfer llyfrgell y Rhath.
Nodiadau i'r golygydd
1) Mae'r Gronfa Dreftadaeth Bensaernïol yn elusen gofrestredig, sy'n gweithio ers 1976 i hyrwyddo cadwraeth ac ailddefnyddio adeiladau hanesyddol yn gynaliadwy er budd cymunedau ledled y DU, yn enwedig mewn ardaloedd dan anfantais economaidd. Ni yw'r prif fuddsoddwr cymdeithasol treftadaeth a'r unig fenthyciwr treftadaeth arbenigol sy'n gweithredu yn y DU. Rydym yn darparu cyngor, grantiau datblygu a benthyciadau.
2) Mae cymorth grant AHF yng Nghymru ond yn bosibl diolch i gyllid gan Sefydliad Garfield Weston, Ymddiriedolaeth Pilgrim a Chadw.
3) Cysylltwch ag Oliver Brodrick-Ward, ar 020 7925 0199 / oliver.brodrick-ward@ahfund.org.uk os oes gennych ymholiadau'r wasg.