Menu closed Menu open

Affordable Housing in Beloved Historic Chapel

26 June 2024
Wales

The Architectural Heritage Fund (AHF) is pleased to announce a Project Viability Grant to Capel Prion for its project at a much-loved historic chapel. This was one of eight awards made at the latest grants meeting, where projects across England, Scotland and Wales were awarded funding totalling £80,000.

Dating back to 1792, Prion Methodist Chapel is located in the centre of the village and has been a focal point of community life for over 200 years. The Grade II-listed building was altered and extended in the mid-19th century in the Simple Round-Headed style. It has a rendered façade, with doorways flanking four tall margin glazed windows, and also incorporates an upper schoolroom and an adjoining 19th-century manse.

Following the closure of the chapel in October 2023, a group of 30 local residents came together with the aim of bringing the chapel into community ownership and giving it a new use. The group is being supported by Cwmpas’ Communities Creating Homes and, between them, they have identified a lack of affordable housing for rent as a key challenge for people being able to stay in the area. To address this need, the group’s preferred option is to transform Capel Prion into two affordable homes available for rent to people with a local connection.

Kathryn Robinson, Community-Led Housing Enabler at Cwmpas, said on behalf of the community: “The chapel has been a focal point of community life in Prion for generations – a hub at the very centre of our identity, culture and language. Its closure poses a threat to the constancy of its presence in all of our lives, and for this reason we are thrilled to have received grant funding from the AHF which will enable us to explore the feasibility of bringing it into community ownership for the benefit of local residents now and in the future.”

The AHF grant, made possible by support from Cadw, will enable the group to commission professional advisors to complete a series of surveys and develop the plans. It will also cover legal fees to formally establish a new incorporated organisation, as well as allow the group to continue its community engagement work.


Tai fforddiadwy yng Nghapel Hanesyddol Annwyl

Mae'r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol (AHF) yn falch o gyhoeddi Grant Hyfywedd Prosiect i Gapel Prion ar gyfer ei brosiect mewn capel hanesyddol annwyl iawn. Roedd hwn yn un o wyth gwobr a wnaed yn y cyfarfod grantiau diweddaraf, lle dyfarnwyd cyllid gwerth cyfanswm o £80,000 i brosiectau ledled Cymru, Lloegr a'r Alban.

Yn dyddio'n ôl i 1792, mae Capel Methodistaidd Prion wedi'i leoli yng nghanol y pentref ac mae wedi bod yn ganolbwynt i fywyd cymunedol ers dros 200 mlynedd. Cafodd yr adeilad rhestredig Gradd II ei newid a'i ymestyn yng nghanol y 19eg ganrif yn yr arddull Pen Crwn Syml. Mae ganddo ffasâd wedi'i rendro, gyda drysau yn ochri pedair ffenestr gwydr ymyl uchel, ac mae hefyd yn cynnwys ystafell ysgol uchaf a mans cyfagos o'r 19eg ganrif.

Fe ddaeth grŵp o 30 o drigolion lleol ynghyd gyda'r nod o ddod â'r capel i berchnogaeth gymunedol a rhoi defnydd newydd iddo yn dilyn cau'r capel ym mis Hydref 2023. Mae'r grŵp yn cael ei gefnogi gan raglen Cwmpas Cymunedau Creu Cartrefi, a rhyngddynt, maent wedi nodi diffyg tai fforddiadwy i'w rhentu fel her allweddol i bobl allu aros yn yr ardal. Er mwyn mynd i'r afael â'r angen hwn, yr opsiwn a ffefrir gan y grŵp yw trawsnewid Capel Prion yn ddau gartref fforddiadwy sydd ar gael i'w rhentu i bobl sydd â chysylltiad lleol.

Dywedodd Kathryn Robinson, Hwylusydd Tai dan Arweiniad y Gymuned yn Cwmpas, ar ran y gymuned: "Mae'r capel wedi bod yn ganolbwynt i fywyd cymunedol yn Prion ers cenedlaethau - canolbwynt yng nghanol ein hunaniaeth, ein diwylliant a'n hiaith. Mae ei gau yn fygythiad i gysondeb ei bresenoldeb ym mhob un o'n bywydau, ac am y rheswm hwn rydym wrth ein bodd ein bod wedi derbyn grant gan y Gronfa a fydd yn ein galluogi i archwilio dichonoldeb dod ag ef i berchnogaeth gymunedol er budd trigolion lleol nawr ac yn y dyfodol."

Bydd y grant AHF, a wneir yn bosibl trwy gymorth gan Cadw, yn galluogi'r grŵp i gomisiynu cynghorwyr proffesiynol i gwblhau cyfres o arolygon a datblygu'r cynlluniau. Bydd hefyd yn cynnwys ffioedd cyfreithiol i greu sefydliad corfforedig newydd yn ffurfiol, yn ogystal â chaniatáu i'r grŵp barhau â'i waith ymgysylltu â'r gymuned.

Share this item