Bydd ail-bwrpasu adeilad rhestredig Gradd II yn creu cyfleuster celfyddydau newydd ar gyfer y gymuned ac yn cefnogi busnesau creadigol lleol fel rhan o'r gwaith o adfywio canol tref hanesyddol
Neuadd Ddirwest, sinema, biled a ffreutur adeg y rhyfel, neuadd bingo, swyddfa dreth a Neuadd y Seiri Rhyddion - mae’r Neuadd Ddirwest hynod, sy'n adeilad rhestredig Gradd II yng nghanol Hwlffordd, wedi gweld y cyfan! Bellach mae’n cael bywyd newydd diolch i Dreftadaeth Hwlffordd, sefydliad sy’n cael ei redeg gan y gymuned ac a gefnogir gan y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Mae ei ffasâd Eidalaidd wedi addurno'r stryd fawr ers 1889, ac mae'n symbol o hanes cymdeithasol cyfunol y dref. Ond er i'r adeilad gael ei ddefnyddio at ddibenion sawl menter - ac fel llawer o adeiladau treftadaeth ledled y wlad - mae wedi bod yn segur ac yn wag ers 2009.
Nawr, drwy waith Ymddiriedolaeth Datblygu Treftadaeth newydd o'r enw Treftadaeth Hwlffordd, bydd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio gan y cyhoedd unwaith eto. Bydd y Neuadd Ddirwest yn cael ei hadnewyddu ac yn dod yn gartref i argraffdy cymunedol newydd a fydd yn agor yn haf 2025. Bydd hyn yn cynnwys gofod arddangos, mannau i ddylunio ac argraffu gwaith, a gweithdy llawn offer gyda gweisg argraffu traddodiadol a fydd yn cynnal rhaglen gyffrous o gyrsiau.
Dywedodd Richard Blacklaw-Jones o Dreftadaeth Hwlffordd: ‘Drwy agor argraffdy cymunedol croesawgar a hygyrch, y nod yw creu gwasanaethau a phrofiadau sy'n denu pobl leol ac ymwelwyr i'r dref, darparu gofod a chyfleoedd i fusnesau creadigol, datblygu sgiliau, dod â phobl ynghyd a gwella'r dref.
‘Mae ein hadeiladau treftadaeth sydd wedi'u hesgeuluso yn symbol o ddirywiad ein tref hanesyddol a fu unwaith yn llewyrchus. Pe bai'r Neuadd Ddirwest yn cael ei gadael i ddirywio ymhellach, byddai'r neuadd yn crisialu’r dirywiad hwn. Ond drwy wneud gwaith adnewyddu ac ailwampio'r adeilad trawiadol hwn gall fod yn rhan o'r ymdrechion i wella'r argraff o'r dref a darparu cyfleuster newydd croesawgar.
‘Drwy ailddyfeisio'r Neuadd Ddirwest fel argraffdy cymunedol, rydym am helpu i adfer Hwlffordd fel lle bywiog a chyffrous i fyw, gweithio ac ymweld ag ef. Mae argraffdai cymunedol a sefydlwyd mewn trefi eraill wedi dod yn ganolfannau celf llwyddiannus sy'n hwyliog ac yn hygyrch i bawb sydd am roi cynnig arni, yn ogystal â darparu cyfle i wneuthurwyr printiau proffesiynol ddefnyddio offer arbenigol. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn arw at groesawu pawb i'n diwrnod agored ddydd Sadwrn 15 Mehefin, i bawb weld beth sydd ar gael.’
Dywedodd Heidi Baker, dylunydd graffeg a thiwtor celf a dylunio yng Ngholeg Sir Benfro a sylfaenydd Popty Press – stiwdio dylunio ac argraffu bach yn y dref: ‘Rydyn ni wedi bod yn profi'r model gweithdy argraffu cymunedol yn ein stiwdio sy'n llai o faint ac rydyn ni wrth ein bodd o gael y cyfle i symud i ofod mwy o faint i wneud lle i ragor o wneuthurwyr printiau a chynnal mwy o weithgareddau. Mae gwneud printiau yn ffurf hygyrch iawn o gelfyddyd sy’n galluogi pawb o bob oedran a gallu i elwa ar gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol.
‘Mae gan Hwlffordd gymaint o botensial, ac rwy'n llawn cyffro i fod yn rhan o'r egni newydd sy'n adfywio'r dref. Mae pob un o'r gweithgareddau newydd yn fach, ond pan fyddan nhw'n dod at ei gilydd yn un, byddwn ni'n sicrhau bod ein tref yn un y gallwn ni fod yn falch ohoni.’
Treftadaeth Hwlffordd yw un o'r 12 o Ymddiriedolaethau Datblygu Treftadaeth ar draws y DU sy'n cael eu hariannu drwy bartneriaeth strategol tair blynedd rhwng y Gronfa Treftadaeth Bensaernïol a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae’r mentrau cymdeithasol hyn sy’n cael eu rhedeg gan bobl wedi cael eu sefydlu i ail-ddychmygu, atgyweirio ac ailddefnyddio adeiladau hanesyddol y mae cymunedau’n eu gwerthfawrogi, gan ail-fuddsoddi refeniw i adeiladu lleoedd llewyrchus a llwyddiannus ym mhob cwr o’r DU. Yn ogystal â chyllid, bydd yr ymddiriedolaethau datblygu treftadaeth yn cael cefnogaeth ar ffurf arbenigedd a chyngor wrth iddynt ddatblygu.
Bu’n bosibl prynu ac adfer y Neuadd Ddirwest gyda chyllid gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol, a Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, Ymddiriedolaeth Syr John Perrot, a’r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol. Mae Treftadaeth Hwlffordd wrthi'n cynllunio’r rhaglen adnewyddu a hoffai rannu’r cynlluniau cyffrous hyn gyda’r gymuned mewn diwrnod agored yn y Neuadd Ddirwest ddydd Sadwrn 15 Mehefin pan fydd teithiau, arddangosfeydd a staff wrth law i egluro mwy am y cynlluniau ar gyfer yr adeilad a sut y gall pobl gymryd rhan.
Dywedodd Kelcey Wilson Lee, Cyfarwyddwr Rhaglenni o'r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol: 'Mae'r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol wedi bod yn gweithio gyda chymunedau ers bron i hanner can mlynedd i ddod o hyd i ffyrdd mentrus o adfywio hen adeiladau trwy ddarparu cyngor, grantiau a benthyciadau i roi treftadaeth gynaliadwy wrth galon economïau lleol bywiog.
‘Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cefnogi'r broses o brynu'r Neuadd Ddirwest i ddod â'r adeilad yn ôl i ddefnydd cymunedol yn ogystal â gwaith ehangach Treftadaeth Hwlffordd. Dim ond dechrau'r gwaith yw hyn, fel un o nifer o Ymddiriedolaethau Datblygu Treftadaeth ar draws y DU, ac edrychwn ymlaen at weld sut y bydd eu gwaith yn datblygu i sicrhau newid cadarnhaol yn y dref.’
Prif Weithredwr newydd yn ymuno i arwain cynlluniau ehangach
Er mwyn bwrw ymlaen â’r rhaglen waith ehangach mae Treftadaeth Hwlffordd wedi penodi Prif Weithredwr newydd, Stuart Berry. Bu Stuart yn gweithio gyda PLANED gynt, sef elusen datblygu cymunedol Gorllewin Cymru, lle bu'n gweithio fel Cydlynydd Diwylliannol am y pum mlynedd diwethaf. Cyn ymuno â PLANED, bu Stuart yn gweithio mewn amgueddfeydd yng ngogledd Lloegr a gorllewin Cymru, gan ganolbwyntio ar gysylltu pobl â’u treftadaeth leol a hyrwyddo’r rôl y gall atyniadau treftadaeth ei chwarae mewn adfywio economaidd a chymunedol.
Dywedodd Stuart: ‘Rwy'n falch iawn o fod yn ymgymryd â'r rôl gyffrous hon ac yn edrych ymlaen at weithio gyda'r gymuned yn Hwlffordd i ddod â bywyd newydd i adeiladau fel y Neuadd Ddirwest. Gyda’i hanes cyfoethog, mae’r Neuadd Ddirwest yn fan cychwyn perffaith ar gyfer Treftadaeth Hwlffordd, ac rydym wrth ein bodd i gael y cyfle i ddefnyddio'r adeilad eto er budd y dref. Ond nid yw'r gwaith yn stopio yn fanno, a hoffem i'r Neuadd Ddirwest fod y cyntaf o lawer o adeiladau treftadaeth yr ydym yn eu prynu, eu hadnewyddu a'u hailddefnyddio yn y dref.’
I wybod mwy am y diwrnod agored ar 15 Mehefin a'r cynlluniau ar gyfer y Neuadd Ddirwest ewch i www.haverfordwestheritage.org.uk