Rhaglenni Presennol
Grant Hyfywedd Prosiect
Uchafswm £10,000 - Grant Cyfartalog = £5,900
Mae Grantiau Hyfywedd Prosiect ar gael i ariannu astudiaethau i archwilio defnyddiau posibl ar gyfer adeilad a’i gyflwr presennol er mwyn cynhyrchu Adroddiad Hyfywedd gan ddefnyddio templed safonol. Caiff cwblhau hyn yn llwyddiannus ei ddefnyddio i benderfynu a all ymgeiswyr wedyn wneud cais am Grant Datblygu Prosiect, yn ogystal â sicrhau cyllid o ffynonellau eraill. Gweinyddir y grant hwn ar sail dreigl. Ein nod yw rhoi penderfyniad i chi o fewn chwe wythnos.
Lawrlwythwch Ganllawiau’r rhaglen
Lawrlwythwch Templed Adroddiad Hyfywedd
Lawrlwythwch Ganllawiau am gwblhau Adroddiad Hyfywedd (Saesneg)
Grant Datblygu Prosiect
Uchafswm £20,000 - Grant Cyfartalog = £11,700
Bwriad Grantiau Datblygu Prosiect yw rhoi cymorth i sefydliad a chyfrannu at rai o gostau datblygu a chydlynu prosiect hyd at ddechrau gwaith cyflawni.
Mae rhaid i sefydliad ddangos bod ganddo ddefnydd terfynol y prosiect sy'n debygol o fod yn hyfyw ac wedi ymrwymo i gymryd y prosiect ymlaen er mwyn bod yn gymwys am y rhaglen hon.
Lawrlwythch Ganllawiau’r Rhaglen
Holi ac Ymgeisio
Ar ôl i chi wirio'ch cymhwysedd, darllenwch ein Nodiadiau Cymorth a llenwi ein ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb byr ar-lein.
Os yw eich sefydliad a'ch prosiect yn gymwys ac yn ymddangos yn cyd-fynd yn dda gyda'n blaenoriaethau, byddwn yn eich gwahodd i gyflwyno cais llawn. Byddwn yn anfon dolen atoch i'r ffurflen gais ar-lein. Gallwch gwblhau a chyflwyno hon i ni pan fyddwch chi'n barod, ond gwiriwch ein dyddiadau cau am geisiadau grant.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen canllaw’r rhaglen cyn dechrau’r cais.
Fel arfer, rydym yn cymryd 6 - 8 wythnos i asesu ceisiadau llai a hyd at dri mis am geisiadau mwy. Byddwn yn dweud wrthych pryd y bydd hyn unwaith y byddwn yn derbyn eich cais, a byddwch yn clywed y canlyniad o fewn wythnos i'r cyfarfod. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn rhoi adborth.
[Os ydych eisoes wedi dechrau gweithio ar gais a mae gennych ddrafft ar-lein wedi'i arbed cyn 28 Ebrill, gallwch gael mynediad at fersiwn hŷn y ffurflen gais yma. Am bob cais newydd, cwblhewch y ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb i ddechrau'r broses.]